Home > YMGYRCH!

YMGYRCH!

YMGYRCH!

Mae Ymgyrch y Welsh Music Foundation yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud ar ran y diwydiant ers sawl blwyddyn y tu cefn i’r llwyfan, fel petai, gan annog defnydd ehangach o gerddoriaeth o Gymru yn y cyfryngau ac ym mywyd bob dydd.

Mae Cymru’n gartref i sawl gorsaf radio ac mae mwy o raglenni teledu, a rhai gwell, yn cael eu cynhyrchu’n lleol yma nag yn unman arall yn y DU. Mae gennym ni ddiwydiant ffilm brodorol iach ac rydyn ni’n dechrau ennill ein plwyf ym meysydd cyfryngau newydd a gemau fideo. Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o gynyrchiadau pob un o’r meysydd hyn a chredwn y dylai mwy o’r gerddoriaeth ddod o Gymru.

Mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae mewn archfarchnadoedd, ciwiau ffôn ac yn ystod hanner amser mewn gemau pêl-droed ac mae Cymru’n ddigon ffodus i fod â’r ddawn gerddorol i ddiwallu’r anghenion hynny.

Mae’r WMF eisoes wedi sefydlu cysylltiadau cryf gyda BBC Wales ac S4C. O ganlyniad, mae’r ddau ddarlledwr wedi cyhoeddi canllawiau i’r cyhoedd a chwmnïau cerddoriaeth yng Nghymru ar sicrhau bod cerddoriaeth yn cael ei darlledu.

Pam mae hyn mor bwysig? Diwedd y gân yw’r geiniog, a hawlfraint yn yr achos hwn. Bob tro y caiff darn o gerddoriaeth ei ddarlledu neu’i chwarae’n gyhoeddus, mae’r artist(iaid) wnaeth ei berfformio, awdur(on) y gân a’r label recordiau a’r cyhoeddwr y maen nhw wedi arwyddo cytundeb gyda nhw yn cael breindal bach. Buan iawn y daw’r ceiniogau’n bunnoedd! Does bosib ei bod hi’n well i economi Cymru os yw’r arian hwn yn dychwelyd i bobl a busnesau yng Nghymru?

Ymunwch â’r ymgyrch: campaign@welshmusicfoundation.com