Aelodau Staff

Natasha Hale Cadeirydd
Yn ogystal â bod yn un o sylfaenwyr y WMF, Natasha yw’r Cadeirydd hefyd ar hyn o bryd. Hi sy’n gyfrifol am redeg y Bwrdd yn ogystal â chasglu safbwyntiau a chyfarwyddiadau’r Bwrdd a’u trosglwyddo i’r Prif Weithredwr, a monitro gwaith y Prif Weithredwr. Natasha sy’n gyfrifol, yn ymarferol, am strategaeth gyffredinol y WMF – cydlynu â sefydliadau proffesiynol a sefydliadau’r llywodraeth ac ymwneud â mentrau ehangach yn ymwneud â chynrychioli Cymru fel gwlad.

Lisa Matthews Rheolwr
Mae’n gyfrifol am ddatblygu prosiectau newydd a pharhau â’r prosiectau presennol sy’n cyd-fynd â nodau ac amcanion y WMF. Mae’r prosiectau y mae’n gweithio arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys y Ddogfen Fapio ar gyfer y Diwydiant Cerddoriaeth yng Nghymru a gwneud pobl yn fwy ymwybodol o oblygiadau’r mesur trwyddedu newydd.
Hefin Jones Swyddog Datblygu Iaith Gymraeg
Caiff y swydd hon ei hariannu’n rhannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac o ganlyniad mae’r swyddog yn gyfrifol am gydlynu datblygiad y sîn gerddoriaeth Gymraeg ar y cyd â’r WMF, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a phartneriaid eraill, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddatblygu a chydlynu’r broses o roi’r Strategaeth Cerddoriaeth Gymraeg ar waith. Mae cyfrifoldebau Hefin yn cynnwys datblygu cysylltiadau’r sîn â gweddill y diwydiant cerddoriaeth, yn y DU ac yn rhyngwladol, a nodi anghenion y diwydiant Cymraeg nad ydynt yn cael eu diwallu ar hyn o bryd.
Kieron Jones Swyddog Gwybodaeth ac Ymchwil
Mae Kieron yn allweddol i’r gwaith o ymateb i ymholiadau a dderbynnir drwy wasanaeth gwybodaeth SCG. Mae hefyd yn canolbwyntio ar weithgareddau cysylltiadau cyhoeddus a marchnata’r cwmni a rheoli digwyddiadau.
Becci Scotcher Cynorthwy-ydd Gweinyddu a Marchnata
Mae Becci yn cynorthwyo â dyletswyddau gweinyddu a gweithgareddau marchnata yn SCG. Mae’n debyg hefyd mai ei llais hi fyddwch chi’n ei glywed gyntaf pan fyddwch yn ein ffonio.
