Croeso > Seminarau / Digwyddiadau > Cerddoriaeth Cynhyrchu: Beth ydyw a Sut i’w Werthu

Cerddoriaeth Cynhyrchu: Beth ydyw a Sut i’w Werthu

Cerddoriaeth Cynhyrchu: Beth ydyw a Sut i’w Werthu


Yn galw cyfansoddwyr, stiwdios, labeli a chyhoeddwyr.....

Cyfarwyddwyr, golygyddion a chynhyrchwyr....

Sadwrn 27 Mawrth 2010, 3 - 4.30pm, Galeri, Caernarfon

Mercher 14 Ebrill 2010, 6.30 – 8pm, Yr Eglwys Norwyeg, Bae Caerdydd

Gyda cymaint o raglenni teledu’n cael eu creu yng Nghymru darganfyddwch sut i ymwthio fewn i’r farchnad cerddoriaeth cynhyrchu, y gwahaniaeth rhwng y mathau o gerddoriaeth ar gyfer teledu, pwy sy’n gwneud y dewis a sut gallwch elwa.

Bydd panel o’r diwydiant clyweledol yn ateb cwestiynau ac yn esbonio’r farchnad.

Hefyd yn cynnwys lawnsio llawlyfr cerddoriaeth cynhyrchu anhepgor SCG : canllawiau i greuwyr a deiliaid hawlfraint. Bachwch eich copi am ddim.

Rhwydweithiwch gyda diodydd yn dilyn 

AM DDIM

I archebu lle ebostiwch hello@welshmusicfoundation.com neu ffoniwch 02920 494110

--

Am y digwyddiad...

Mae cerddoriaeth cynhyrchu yn cynyddu incwm cyfansoddwyr a chyhoeddwyr. Gydag ymchwil diweddar wedi dangos mai ond 2% o’r gerddoriaeth cynhyrchu sydd ar deledu Cymru sydd gan gyfansoddwyr o Gymru mae’n amlwg nad ydym yn ffynnu yn y maes. Oherwydd hyn bydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn lawnsio llawlyfr ar gyfer labeli, cyfansoddwyr a stiwdios i ddarparu cerddoriaeth ar gyfer teledu a’r diwydiant aml-blatfform ehangach, megis gemau cyfrifiadur. Bydd panel o’r diwydiant yn trafod y fachnad yn Ffair Cult Cymru / Diwydiannau Creadigol Gogledd Cymru yn Galeri Caernarfon 3yp Sadwrn 27 Mawrth, gydag Aelwyn Williams (cwmni Pawb sy’n cyflwyno’r llawlyfr) a John Hywel Morris (PRS am Gerddoriaeth). Cadeirir gan Rhys Mwyn.  Bydd digwyddiad cyffelyb yng Nghaerdydd ar Ebrill 14 am 6.30yh yn Yr Eglwys Norwyeg, Bae Caerdydd

Dyma'r panelwyr...

Galeri, Mawrth 27

Chair: Rhys Mwyn

John Hywel Morris PRS

John Sweeney RSM

Aelwyn Williams PAWB

Euros Wyn CWMNI DA

 

Eglwys Norwyeg, Ebrill 14

Chair: Rhys Mwyn

John Hywel Morris PRS

John Sweeney RSM

Sian Gale PAWB

Mali Evans – Golygydd Llawrydd


Back to Events