Croeso > Seminarau / Digwyddiadau > Cyhoeddwyd y panelwyr am ‘Getting the Gig’

Cyhoeddwyd y panelwyr am ‘Getting the Gig’

Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac Undeb y Cerddorion yn cyflwyno…
Getting The Gig

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
10fed Chwefror 2010


Paul Gray – Undeb y Cerddorion

Cychwynnodd gyrfa gerddorol Paul pan oedd yn 16 oed ac yntau’n chwaraewr bas/cyfansoddwr caneuon gyda’r grŵp roc ‘arddegol’ Eddie & the Hot Rods. O fewn blwyddyn datblygodd y grŵp o chwarae mewn sesiynau bingo lleol i fod y band new wave cyntaf i fynd ar daith arloesol - 56 gig mewn 52 diwrnod – o amgylch UDA gyda Blondie, The Ramones a Talking Heads.

Gadawodd y band ym 1980 i ymuno â’r arwyr pync The Damned, a threuliodd y 17 mlynedd nesaf gyda hwy ac yna gyda’r ‘rocyrs stadiwm’ UFO.  Arwyddodd Paul gytundebau â nifer o gwmnïau recordiau mawr ac annibynnol, achosodd lawer o gur pen i 23 o reolwyr, cafodd ei wahardd o’r Ffindir, bu’n gweithio yn rhyngwladol fel chwaraewr bas ‘sesiwn’, yn rheoli a mentora artistiaid newydd a thynnodd nifer dirifedi o Gibson Thunderbirds yn gareiau.

Nid yw’n syndod fod Paul ychydig yn fyddar erbyn hyn. Mae wedi bod yn aelod o Undeb y Cerddorion ers 1977 a nawr mae’n byw bywyd ychydig yn llai swnllyd fel Swyddog Rhanbarthol llawn-amser Cymru a De Orllewin Lloegr yr Undeb. Yn ei amser hamdden mae’n chwarae mewn band bluegrass pync electro acwstig o’r enw The Monte Dons.

Martin Bowen

Mae Martin yn rhedeg cwmni rheoli Probation Management ac ymhlith ei gleientiaid mae Viva Machine a The Automatic, ac mae Martin wedi arwain eu gyrfa, o fod yn grwpiau anadnabyddus i fod yn sêr rhyngwladol, gan lunio cytundebau gyda B-Unique yn y DU a Sony Records yn UDA.

Cyn hynny, ef oedd yn rhedeg y label FF Vinyl, a gyflwynodd fandiau yn cynnwys Mohobishopi a Martini Henry Rifles. Mae gwaith arall Martin yn y diwydiant yn cynnwys gwaith newyddiadura i wahanol gylchgronau cerddoriaeth, rheoli teithiau, ac yn gyffredinol baeddu ei ddwylo ym mhob agwedd o’r busnes – gwneud pethau yn “y ffordd galed” gan nad oes ffordd hawdd !


John Rostron

Hyrwyddwr cerddoriaeth fyw a gwyliau yw John Rostron sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Gyda Huw Stephens, y DJ ar BBC Radio 1 mae’n trefnu Gŵyl Sŵn sydd erbyn hyn yn achlysur blynyddol a gynhelir mewn dwsin o ganolfannau yng Nghaerdydd yn ystod un penwythnos cyfan yn nhymor yr Hydref. Yn ogystal, mae’n hyrwyddo ac yn gofalu am lwyfannau neu gigs Sŵn gan arddangos cerddoriaeth newydd yng Nghymru a thu hwnt mewn gwyliau a digwyddiadau eraill, gan gynnwys In The City, Stag & Dagger, Field Day, HowTheLightGetsIn (rhan o Ŵyl Lenyddol y Gelli Gandryll), The Pierhead Sessions a IASPM 2010 (International Association for the Study Of Popular Music).

Mae’n hyrwyddo flux=rad, noson wythnosol o gerddoriaeth fyw newydd, yn Sefydliad Celfyddydau Caerdydd.

Yn 2009  sefydlodd Association of Promoters and Events Cardiff (APE Cardiff http://www.apecardiff.com) corff sy’n cynrychioli holl hyrwyddwyr cerddoriaeth fyw a nosweithiau clwb y ddinas. Mae APE Cardiff yn rhoi llais i’r grwpiau hyn siarad â’r Cyngor a’r Awdurdodau mewn ymateb i’r pwysau cynyddol sy’n wynebu hyrwyddwyr a chanolfannau cerddoriaeth fyw yn y brifddinas.

Yn ei amser rhydd mae John yn rheolwr y label recordio My Kung Fu. Ef hefyd yw cyd-sefydlwr ac awdur ‘Sleeveface’.


Christopher Rees

Mae Christopher Rees wedi bod yn gysylltiedig â’r diwydiant cerddoriaeth mewn un ffordd neu’r llall am fwy na 15 mlynedd.

Fel cerddor, canwr a chyfansoddwr mae wedi rhyddhau 4 albym hynod lwyddiannus ac wedi ennill gwobr 'Artist Unigol Gorau Gwrywaidd' yng Ngwobrau Cerddoriaeth Cymru 2004'.

Mae wedi teithio’n eang o boptu’r Atlantig, ledled Ewrop ac yn Awstralia, gan berfformio cyn artistiaid chwedlonol fel John Cale, Kristin Hersh a Billy Joe Shaver ymhlith eraill. Fel cynhyrchydd cerddoriaeth/peiriannydd recordio mae wedi gweithio gyda’r Americanwyr dylanwadol Mark Olsen (The Jayhawks) a Victoria Williams ochr yn ochr ag amryw o artistiaid o Gymru.

Ef yw Cyfarwyddwr y label recordio annibynnol a’r cwmni cynhyrchu cerddoriaeth ffilm, Red Eye Music.  Treuliodd Christopher Rees hefyd 12 mlynedd yn gweithio fel newyddiadurwr llawrydd i’r Western Mail.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i 

www.myspace.com/christopherrees    

www.christopherrees.co.uk


Matt Cohen

Mae Matt, sy’n gerddor proffesiynol hefyd yn rhedeg ei label recordio annibynnol ei hun sef Comet Music. Bu’n cynorthwyo i redeg recordiau Pop Factory ym Mhontypridd ac roedd yn aelod llawn-amser o’r band prog-rock Magenta lle’r oedd ei waith yn cynnwys marchnata/cysylltiadau cyhoeddus/trefnu teithiau ar gyfer y band, yn ogystal â chwarae’r gitâr fas.  O ganlyniad i’w ymdrechion cynyddodd proffil y band yn sylweddol, gan arwain at deithiau llwyddiannus yn y DU ac Ewrop, gyda pherfformiadau ychwanegol yn UDA a Mecsico, i hyrwyddo rhyddhau 3 albym a 3 sengl.  Cynorthwyodd Matt hefyd i drefnu a chyd-drefnu “ProgAid” ar gyfer dioddefwyr y tswnami ar ddiwedd 2004.

Ar ôl gadael Magenta yn 2005, ffurfiodd Matt ei fand cyfredol, The Reasoning.  Ers hynny, mae’r band wedi rhyddhau dwy albym hynod lwyddiannus (gwerthiant o 20,000), wedi teithio gyda Marillion a FISH, ac wedi mwynhau nifer o deithiau amlwg yn y DU ac Ewrop.

Mae’r dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r label yn cynnwys gwaith cyfrifon, cysylltiadau cyhoeddus, datblygu’r wefan, cynnal fforymau cefnogwyr a rhestr bostio o 4000, trefnu teithiau a chynhyrchu a chynllunio CD yn ogystal â’r holl waith trafod cytundebau ar gyfer y band a thrafod ag asiantaethau casglu a’r cyfryngau.  Mae The Reasoning wedi cael sylw helaeth mewn cyhoeddiadau megis cylchgronau Classic Rock, Classic Rock Presents Prog, Record Collector, Powerplay a Fireworks i enwi ychydig yn unig.

Back to Events