Cynadleddau Dydd Diwydiant Cerddoriaeth Gymraeg - Ionawr 2009

DYDD GWENER, IONAWR 23, 2009, 12.30PM – 5.30PM -
GALERI, CAERNARFON
DYDD GWENER, IONAWR 30, 2009, 12.30PM – 5.30PM -
YR EGLWYS NORWYAIDD, CAERDYDD
Yn dilyn eu poblogrwydd yn 2008, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig unwaith eto’n cynnal y Dyddiau Diwydiant Cerddoriaeth Gymraeg, a fwriadwyd i fynd i’r afael â materion allweddol sydd o bwys i ddiwydiant cerddoriaeth Gymraeg a thu hwnt.
Ar ddydd Gwener, 23 Ionawr 2009 bydd y gynhadledd yng ngogledd Cymru yn digwydd yn y Galeri, Caernarfon. Bydd tair sesiwn yn digwydd yn ystod y prynhawn gan gynnwys pynciau trafod plygio cerddoriaeth i orsafoedd radio, brandio cerddoriaeth a marchnata a hyrwyddo digwyddiadau byw. Ymhlith y panelwyr gwadd bydd Adam Walton (BBC Radio Wales), Gareth Iwan Jones (Cynhyrchydd, BBC Radio Cymru) a chynrychiolwyr o Dylunio Cymru, Creu Cymru a Cerdd Gymunedol Cymru, ac eraill.
Ar ddydd Gwener, 30 Ionawr 2009 bydd y gynhadledd yn ne Cymru cael ei chynnal yn yr Eglwys Norwyaidd, Caerdydd. Mae teitlau’r sesiynau yno yn cynnwys ‘Cefn llwyfan mewn canolfannau byw’ – cyfle i glywed gan rai o Ganolfannau byw mwyaf newydd Cymru; ‘Darlledwch eich cerddoriaeth’ – lle bydd y panel yn trafod ym mha ffyrdd y gall labeli, artistiaid a chyhoeddwyr ddarlledu eu cerddoriaeth ar y teledu a chyfryngau eraill, ac yn olaf, Cerddoriaeth DIY: Croesawu dulliau marchnata newydd’ a fydd yn cloriannu ac yn cynnig sut y gellir defnyddio technoleg newydd sydd ar gael i fod yn unigryw. Yn cynnwys siaradwyr o gwmni chwyldroadol Peter Gabriel, Real World, a hefyd Indiemobile.
Mae croeso i chi dewis a dethol pa sesiynau yr ydych yn mynychu yn ystod y dyddiau Cynadleddau, neu aros trwy gydol y dydd Yn y prynhawn hefyd ceir sesiynau holi ac ateb - cyfle ardderchog i roi sylw i gwestiynau neu faterion unigol, a bydd hwn, wrth gwrs, yn gyfle rhagorol i gynrychiolwyr rwydweithio.
Ceir rhestr lawn o’r digwyddiadau yn www.sefydliadcerddoriaethgymreig.com,.
Cynhelir y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael.
Mae’r diwrnodau yn DDI-DÂL, ond mae lleoedd yn gyfyngedig. I gofrestru, e-bostiwch: dai@welshmusicfoundation.com neu ffoniwch 029 20 494110
---
AGENDA
DYDD GWENER 23 IONAWR 2009 GALERI, CAERNARFON
12.30 – 1pm - COFRESTRU / COFFI
1pm - 2pm - EICH CERDDORIAETH AR YR AWYR
Gareth Iwan Jones, BBC Radio Cymru
Adam Walton, BBC Radio Wales
Hefyd un siaradwr arall i’w gadarnhau
2pm – 4.15pm - DYLUNIO A MARCHNATA ANGENRHEIDIOL AR GYFER EICH CERDDORIAETH
Victoria Jones, Dylunio Cymru
Iestyn Lloyd, Dylunio Sbellcheck
Hefyd un siaradwr arall i’w gadarnhau
4.30pm – 5.30pm - MARCHNATA A HYRWYDDO EICH DIGWYDDIADAU BYW
Richard Hoggard, Creu Cymru
Gethin Evans, Cerdd Gymunedol Cymru / Gŵyl Goll
Elen ap Robert, Galeri
Gill Taylor, Rheolwraig / Hyrwyddwr
5pm – RHWYDWEITHIO / DIODYDD yn y bar
---
AGENDA
DYDD GWENER 30 IONAWR 2009
EGLWYS NORWYAIDD, CAERDYDD
12 – 12.30pm - COFRESTRU / COFFI
1pm – 2.15pm - CEFN LLWYFAN MEWN CANOLFANNAU BYW
Simon Kingman – Clwb y Twcan, Caerdydd
Hefin Jones – Tŷ Newydd, Sarn
Steven Bines – Sub 29, Caerdydd
2.15pm – 3.15pm - DARLLEDWCH EICH CERDDORIAETH
Gareth Potter – Arolygwr Cerddoriaeth
David Jackson – Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
John Hardy – Cerddoriaeth John Hardy
3.30pm – 5pm - CERDDORIAETH DIY: CROESAWU DULLIAU MARCHNATA NEWYDD
Mark Mitchell – King Harvest
Simon Rugg – Indiemobile
5pm – RHWYDWEITHIO / DIODYDD yn y bar
Galler y siaradwyr neid.

