Cyfarfod Rhanddeiliaid nesaf - Abertawe

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y Cyfarfod Rhanddeiliaid nesaf yn cael ei gynnal ar Orffennaf 9fed 2009, 5pm - 7pm. Monkey Bar & Café yn Abertawe yw'r lleoliad – diolch i'r criw yno am gynnig ein croesawu yn eu canolfan.
Mae Cyfarfodydd Rhanddeiliaid yn gyfle da bob amser i glywed am gynlluniau SCG ac i rwydweithio dros ddiodydd. Hyd yma mae'r siaradwyr yn cynnwys Huw Williams a Penny Mitchell mewn perthynas ag Adeilad Weavers: cynnig clwstwr y diwydiannau creadigol ar gyfer Stryd Fawr Abertawe a Colin Consterdine – a fydd yn rhoi manylion am ddigwyddiad Unconvention Abertawe a gynhelir yn fuan.
Archebwch eich lle drwy e-bostio hello@welshmusicfoundation.com.
Os oes unrhyw faterion arbennig yr hoffech eu codi yn ystod y cyfarfod, cysylltwch â kieron@welshmusicfoundation.com.

