Home > Ffrindiau WMF

Ffrindiau WMF

Ffrindiau WMF

Pwy?

Dylai pawb sy’n ffan cerddoriaeth Cymru fod yn Ffrind i’r WMF.

Nod y WMF yw helpu i ddatblygu’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru trwy roi cymorth busnes arbenigol a chynrychiolaeth gan y diwydiant ei hun, ond dydyn ni byth yn anghofio bod y diwydiant cyfan yn seiliedig ar gerddoriaeth, y bobl sy’n gwneud cerddoriaeth a’r bobl sy’n gwrando arni. Mae llawer o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud a’r pethau rydyn ni’n eu dysgu trwy’n gwaith yn berthnasol i chi.

Beth?

Mae Ffrindiau’r WMF yn ffordd i ni siarad â chi ac i chi siarad â ni. Y brif elfen yw cylchlythyr bob rhyw bythefnos – mae’n cynnwys disgowntiau ar gerddoriaeth, cyfle i fod yn rhan o’n cynlluniau, cystadlaethau a gwobrau a newyddion cerddoriaeth defnyddiol a diddorol ar gyfer y prynwyr.

Mae croeso i chi ymateb i’r cylchlythyr! Rydyn ni eisiau gwybod beth hoffech chi i’r WMF ei wneud ar eich rhan chi.

Ein Haddewid

Rydyn ni’n addo peidio anfon sothach ac NI fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei roi i unrhyw drydydd parti. Bydd y negeseuon yn berthnasol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth yng Nghymru, boed yn wrandawyr, yn fandiau neu’n bobl sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

Bod yn Ffrind

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud i ymuno â’r rhestr yw anfon e-bost at hello@welshmusicfoundation.com Mae croeso i chi ysgrifennu neges i ni yr un pryd.

Am fwy o wybodaeth am Ffrindiau’r WMF, ffoniwch SCG ar 029 2049 4110 neu e-bostiwch hello@welshmusicfoundation.com.

Myspace

Gan fod gan fwy neu lai pob un o’r bandiau a llawer o’r busnesau rydyn ni’n dod i gysylltiad â nhw broffiliau ar Myspace,fe feddylion ni y byddai’n syniad da i ni wneud ’r’un fath: http://www.myspace.com/welshmusicfoundation

Ychwanegwch ni at eich ffrindiau!