Cyflawniadau
Ers cael ei ffurfio yn 2000, mae’r Welsh Music Foundation wedi cymryd rhan mewn llawer o brosiectau, digwyddiadau a phartneriaethau allweddol. Maent i gyd wedi body n rhan annatod o ddatblygiad y diwydiant cerddorol yng Nghymru.
Rydym yn amlygu rhai o’r cyflawniadau yma:
2007
Mawrth 2007Cydgysylltu’r digwyddiad ‘South By Southwest’ cyntaf erioed gyda Busnes Creadigol Cymru i frolio cerddoriaeth o Gymru. Derbyn cymorth ariannol ar gyfer y perfformwyr o Gymru a gafodd eu gwahodd i chwarae yn arddangosfa SxSW drwy Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Trefnu’r gwaith o frandio a marchnata’r digwyddiad a gwahodd Huw a Beth, Radio 1, i roi sylw i’r digwyddiad (The Automatic, The Hot Puppies, The Gentle Good, The Storys). Mae’r WMF yn parhau i chwilio am ffyrdd o ddatblygu proffil cerddoriaeth Cymru yn yr Unol Daleithiau.
Ionawr 2007
Cyd-gynnal y Stondin ‘British at Midem’, gyda’r WMF yn gweithio
yno gydol y digwyddiad. Mynychodd saith cwmni o Gymru, gan gynnwys Sain a oedd â’u
stondin eu hunain. Cydgysylltu cymorth ariannol (drwy Fusnes Rhyngwladol Cymru)
ar gyfer y cwmnïau a oedd yn mynychu. Cydweithiodd y WMF hefyd gyda’r tîm
digwyddiadau i drefnu bod Richard James (My Kung Fu) yn chwarae’r gerddoriaeth
o Brydain yn y digwyddiad ynghyd â chael aelod o staff ar y stondin. Cynhyrchu
CD rhyngwladol arbennig, New Music From Wales, i’w ddosbarthu yn y digwyddiad.
Ionawr 2007
Lansio gwefan newydd y WMF sydd wedi bod yn cael ei datblygu gydol
2006. Mae gan y wefan newydd adran wedi’i neilltuo ar gyfer Rhanddeiliaid sy’n
cynnwys gwybodaeth fel amserlenni rhyddhau, proffiliau llawn y rhanddeiliaid
a dogfennau ymchwil amrywiol sydd ar gael i Randdeiliaid yn unig. Mae hefyd
yn cynnwys adran ‘cyfansoddwyr ar gyfer y cyfryngau’ i annog pobl i ddefnyddio
mwy o gerddoriaeth o Gymru wrth ddarlledu drwy gael proffiliau cyfansoddwyr
mewn un lle.
2006
Rhagfyr 2006
Penodi pedwar aelod newydd ar y Bwrdd i gynrychioli Rhanddeiliaid:
Rhys Mwyn, Dafydd Roberts, John Rostron a Henry Blunt.
Rhagfyr 2006
Cynnal digwyddiadau gwybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant yn y
Gogledd a’r De. Trafododd Creative and Cultural Skills y gwahanol ddisgrifiadau
swydd a mynediad i gyfleoedd yn y diwydiant. Siaradodd gweithwyr proffesiynol
sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth ar hyn o bryd yn y digwyddiadau hyn
hefyd er mwyn rhoi blas personol ar sut i fynd ati i gael eu troed ar ris gyntaf
yr ysgol yn y byd cerddoriaeth. Ar y cyd â Gyrfa Cymru.
Tachwedd 2006
Cynorthwyo i ddod â Sioe Deithiol UKTI i Gymru (yn cynnwys AIM,
BPI, PPL, PRS-MCPS ac UKTI) drwy drefnu lleoliad a gofalu am drefniadau’r digwyddiad.
Roedd yn agored i bob cwmni cerddoriaeth ac yn gyfle iddynt ddysgu mwy am y
sefydliadau hyn mewn diwrnod a chael y cyfle i siarad â chynrychiolwyr am eu
hamgylchiadau unigol. Roedd gwasanaeth cyfieithu llawn a phecynnau gwybodaeth
dwyieithog ar gael.
Tachwedd 2006
Yn dilyn digwyddiad S4C, cynhaliwyd cyfarfod rhwydweithio ar
ffurf ‘gwib-fachu’ rhwng 12 label recordio a chyfansoddwyr y cyfryngau a 12
o gynrychiolwyr o wahanol adrannau’r BBC. Y nod oedd cael mwy o ddarlledwyr
i ddefnyddio catalog Cymru.
Tachwedd 2006- Mawrth 2007
Denu’r cwrs Hyfforddi Rheolwyr dwys cyntaf i Gymru.
Ar y cyd â Creative and Cultural Skills, dan law MMF (Fforwm Rheolwyr Cerddoriaeth)
a’i achredu gan NEWI (Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru). Roedd y cwrs yn cael
ei gynnal deuddydd y mis ac yn cynnwys pob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys y rheolwyr artistiaid Peter Jenner (Pink Floyd,
Billy Bragg) a Keith Harris (Stevie Wonder).
Tachwedd 2006
Cydgysylltu seminar ‘Cerddoriaeth mewn Ffilm’ fel rhan o Ŵyl
Ffilmiau Caerdydd ac mewn cysylltiad â Busnes Creadigol Cymru. Trafodaeth
yn y prynhawn ar arferion gorau wrth sicrhau bod eich cerddoriaeth yn cael
ei defnyddio ar ffilm a sut y dylai cynhyrchwyr ffilmiau fynd ati i gysylltu â labeli
a chyfansoddwyr o Gymru.
Hydref 2006
Cynnig pris gostyngol i gynrychiolwyr cwmnïau o Gymru a oedd yn
mynychu In The City, Manceinion. Cynllunio ac argraffu pamffledi’n hysbysebu’r
arddangosfa a oedd yn cynnwys bandiau o Gymru (The Gentle God, Cate Le Bon,
Texas Radio Band, Frommars). Dosbarthu’r pamffledi mewn bagiau cynrychiolwyr
a’u hanfon ymlaen llaw at artistiaid a pherfformwyr dethol a oedd yn mynychu’r
digwyddiad.
Medi 2006
Cyd-gynnal y stondin British at Popkomm a chynnig y cyfle i gwmnïau
cerddoriaeth o Gymru fynychu’r digwyddiad masnachu fel rhan o’r stondin. Gweithiodd
aelod o staff y WMF ar y stondin drwy’r digwyddiad.
Medi 2006
Cynnal yr ail Gynhadledd Cerddoriaeth Gymraeg ddeuddydd flynyddol
yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd. Gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith
y Gymraeg, roedd y digwyddiad yn rhoi sylw i bynciau’n cynnwys rhedeg cwmni
label, y wasg a hyrwyddo, dosbarthu digidol, cynnal digwyddiadau byw a dyfodol
partneriaeth Cymru. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Ian Bell o 7 Digital, Esyllt
Williams o Ciwdod a Dan Stacey o 679 Recordings.
Awst 2006
Cynhyrchu albwm, ‘Dan y Cownter’ gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r
CD yn cynnwys 10 cân gan berfformwyr Cymraeg a ddewiswyd gan DJ Radio 1 Huw
Stephens a’i nod oedd cyrraedd cynulleidfaoedd nad ydyn nhw’n gwrando ar gerddoriaeth
Gymraeg fel arfer, gan gyflwyno’r sîn iddyn nhw. Hefyd, cydgysylltu stondin
yn yr Eisteddfod a oedd yn rhoi cyfle i labeli werthu recordiau a nwyddau ac
ati.
Mehefin 2006
Cynnal seminar ar farchnata cerddoriaeth all-lein yng Nghaerdydd
gyda’r siaradwyr Bart McDonagh o Domino Recordings (cartref Fanz Ferdinand),
Greame Beattie o Chemikal Underground (sy’n cynnwys y bandiau Albanaidd Arab
Strap a The Delgados).
2005
Mehefin 2005
Cynnal diwrnod agored gydag S4C a chynrychiolwyr cerddoriaeth Gymraeg
ar sut i sicrhau bod eu cerddoriaeth yn cael ei defnyddio ar y teledu, radio
a ffilm. Defnyddio fformat ‘gwib-fachu’ i annog rhwydweithio a chyfnewid syniadau.
Ebrill 2005
Denu’r cwrs hyfforddi cyntaf i reolwyr cerddoriaeth broffesiynol
i Gymru gyda phenwythnos hyfforddi dwys MMF (Fforwm Rheolwyr Cerddoriaeth).
Mawrth 2005
Yn 2005, y WMF oedd yr unig asiantaeth datblygu cerddoriaeth a
gafodd wahoddiad i ymuno â’r MBF (Fforwm Busnes Cerddoriaeth).
Mawrth 2005
Gweithio mewn partneriaeth â MasnachCymru Rhyngwladol i fynd â chynrychiolwyr
o fusnesau bach a chanolig cerddoriaeth o Gymru i SXSW, Texas.
Chwefror a Mawrth 2005
Trefnu dau seminar yng Nghaerdydd a Bangor ar y Ddeddf
Drwyddedu Newydd. Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Feargal Sharkey o’r Live
Music Forum, cynrychiolwyr o SIA a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a
Chwaraeon a Swyddogion Trwyddedu Awdurdod Lleol.
Ionawr 2005
Gweithio ochr yn ochr â MasnachCymru Rhyngwladol yn y BPI i fynd â 9
cwmni cerddoriaeth o Gymru i Gynhadledd Cerddoriaeth Midem yn Cannes.
Ionawr 2005
Gweithio mewn partneriaeth â MasnachCymru Rhyngwladol i gynnal
seminar ar Werthiant Rhyngwladol. Y siaradwyr gwadd oedd Richard King (Rheolwr
Rhyngwladol, The Leaf Label ac ymgynghorydd i Domino Recording Co.) a Phil
Patterson (Association of Independent Music).
2004
Rhagfyr 2004
Trefnu cymhorthfa gyfreithiol undydd am ddim mewn partneriaeth â chyfreithwyr
cerddoriaeth Sheridans, ar gyfer busnesau bach a chanolig cerddoriaeth yng
Nghymru.
Hydref 2004
Trefnu cynhadledd gerddoriaeth Gymraeg ddeuddydd yn Aberystwyth
a mynychodd dros 50 o gwmnïau cerddoriaeth o Gymru.
Medi 2004
Gweithio mewn partneriaeth â MasnachCymru Rhyngwladol i fynd â chynrychiolwyr
o 15 o fusnesau bach a chanolig cerddoriaeth o Gymru i Popkomm, Berlin.
Awst 2004
Trefnu pris gostyngol i gynrychiolwyr busnesau bach a chanolig o
Gymru a oedd am fynychu In the City, Manceinion 2004.
Medi 2004
Cynhyrchu CD amlgyfrannog o gerddoriaeth o Gymru i’w ddosbarthu yn
Popkomm 2004.
Medi 2004
Derbyn £3500 gan PLASA (Production Lighting & Sound Association)
tuag at Brosiect Ystafell Ymarfer y Live Music Forum yn Abertawe.
Medi 2004
Gweithio mewn partneriaeth â MasnachCymru Rhyngwladol i gynnal 2
seminar (Abertawe a Bangor) ar Werthiant Rhyngwladol ym mis Medi. Siaradwr
gwadd, Richard King (Rheolwr Rhyngwladol, The Leaf Label ac ymgynghorydd i
Domino Recording Co.)
Awst 2004
Gweithio mewn partneriaeth â Chyfle Cymru i gyd-gynnal seminar yn
Llandudno am sut i ddefnyddio E-fasnach yn effeithiol i gynyddu ffrydiau refeniw
i fusnesau bach a chanolig cerddoriaeth mewn ardaloedd Amcan 1 yng Nghymru.
Awst 2004
Trefnu digwyddiad 10 diwrnod mewn cydweithrediad â Gŵyl Haf Cyngor
Caerdydd - ‘All Back to Cardiff’ - gan ddenu bandiau fel Playlouder ac XFM
i Gymru.
Gorffennaf 2004
Denu Rachel Wood (gynt o Grand Central Records) i Gaerdydd
i roi seminar ar gyhoeddi a chydamseru.
Gorffennaf 2004
Gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Morgannwg i gynnal
cwrs Ysgol Haf wythnos o hyd - ‘Making Money Out of Music’.
Mai 2004
Cais swyddogol gan y BPI i gyfrannu sylwadau at Adolygiad Siarter
y BBC.
Ebrill 2004
Dod o hyd i banelwyr i gynrychioli artistiaid a pherfformwyr rhanbarthol
ar ITC Unsigned a chael cynnig bod yn bartner cyfryngau ar gyfer In the City
2004.
Mawrth 2004
Gweithio gyda ASCAP i gynnal panel o feirniaid demos/panel diwydiant
cerddoriaeth ac arddangos yng Nghaerdydd.
Chwefror 2004
Cael ein penodi’n aelodau o ‘Live Music Forum’ yr Adran dros
Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Chwefror 2004
Croesawu Ann Harrison (Harrison’s Solicitors) a Christian Winchester
(Harbottle & Lewis) i Fangor a Chaerdydd, i gynnal dau seminar cyfreithiol
am ddim am gontractau cerddoriaeth.
Mawrth 2004
Gweithio ochr yn ochr â’r BPI ac AIM i ddod â Sioe Deithiol ‘Sound
Advice’ i Gymru. Menter o’r DU yw ‘Sound Advice’ sy’n cynnig cyngor ar yrfaoedd
i bobl ifanc sydd am weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.
Chwefror 2004
Yn dilyn llwyddiant CD Talent Cymru 2003, gofynnodd Music Week
am gymorth y WMF i gynhyrchu CD arall ar gyfer 2004. Hefyd, cyhoeddodd Music
Week erthygl olygyddol arbennig, ‘Spotlight on Cardiff’, yn rhifyn Midem y
cylchgrawn.
Ionawr 2004
Gweithio ochr yn ochr â MasnachCymru Rhyngwladol a’r BPI i fynd
ag 11 cwmni cerddoriaeth o Gymru i Gynhadledd Cerddoriaeth Midem yn Cannes.
2003
Rhagfyr 2003
Penodwyd gan MasnachCymru Rhyngwladol i ddatblygu strategaeth
ar gyfer allforio cerddoriaeth o Gymru a chwmnïau cerddoriaeth o Gymru’n rhyngwladol.
Medi 2003
Cynnal a chydgysylltu sefydliad aml-fasnach ‘Collection Societies
Open Surgery’ ar gyfer cwmnïau Cerddoriaeth o Gymru, gan gynnwys panelwyr o:
AIM, BPI, MCPS, PRS, PPL a VPL.
Awst 2003
Gofynnwyd i Sound Nation fod yn Bartner Cyfryngau yng Nghynhadledd
Cerddoriaeth In The City 2003. Rhoi cylchgrawn Sound Nation ym mag nwyddau’r
holl gynrychiolwyr ac roedd yn cynnwys adran ganol ‘In The City Special’.
Gorffennaf 2003
Ailenwi cylchgrawn Honk yn gylchgrawn ‘Sound Nation’ – dosbarthu
tua 5500.
Mai 2003
Gwahoddiad i ymuno â Phwyllgor Rhyngwladol Diwydiant Ffonograffig
Prydain.
Awst 2003
Gweithio gyda MasnachCymru Rhyngwladol i fynd â chynrychiolwyr o
10 cwmni cerddoriaeth i Ffair Fasnach Popkomm, Cologne.
Chwefror 2003
Partneriaeth gyda Music Week i gynhyrchu CD ‘cover-mount’ i fandiau
ac artistiaid Cymru a rhifyn arbennig ‘Spotlight on Wales’ o’r cylchgrawn.
Ionawr 2003
Gweithio gydag AIM a MasnachCymru Rhyngwladol i fynd â chynrychiolwyr
o gwmnïau o Gymru i Gynhadledd Cerddoriaeth MIDEM yn Cannes.
2002
Hydref 2002
Cynnal seminar cyntaf ‘Music It’s the Business’ yng Nghymru mewn
partneriaeth â Diwydiant Ffonograffig Prydain.
Medi 2002
Cynnal ymchwil a chrynhoi adroddiad ar glystyru busnesau cerddoriaeth
ar ran Awdurdod Datblygu Cymru.
Awst 2002
Gwahodd cylchgrawn Honk (‘Sound Nation’ bellach) i fod yn Bartner
Cyfryngau yng Nghynhadledd Cerddoriaeth In The City 2002. Rhoi cylchgrawn Honk
ym mag nwyddau’r holl gynrychiolwyr ac roedd yn cynnwys adran ganol ‘In The
City Special’.
Mai 2002
Gwahodd y Welsh Music Foundation i eistedd ar bwyllgor Rhanddeiliaid
cynnig Caerdydd i fod yn Brifddinas Diwylliant Ewrop 2008.
Mawrth 2002
Trafod telerau am gymorth ariannol gan MasnachCymru Rhyngwladol
i’r grŵp o Gymru, Big Leaves, fel y gallent berfformio yng ngŵyl enwog South
By South West a’r Gynhadledd Gyfryngau yn Austin, Texas, yr Unol Daleithiau.
Chwefror 2002
Creu partneriaethau gyda sefydliadau cerddoriaeth rhanbarthol,
gan gynnwys Manchester City Network, Generator a’r Irish Recorded Music Authority.
Chwefror 2002
Denu Diwydiant Ffonograffig Prydain i Gymru am y tro cyntaf erioed,
i gynnal cyfres o Seminarau Diwydiant Cerddoriaeth addysgol mewn lleoliadau
amrywiol yng Nghymoedd y De. Mae dros 40 o bobl wedi mynychu pob un o’r seminarau
a derbyniwyd ymateb cadarnhaol iawn gan bawb. Mae sefydliadau cenedlaethol
eraill a gafodd eu denu i gadeirio’r seminarau’n cynnwys Performing Right’s
Society, Mechanical Copyright Protection, Society, Phonographic Performance
Limited a label recordio Sony S2.
Chwefror 2002
Chwaraeodd 19 o fandiau i chwe gwahanol gynulleidfa mewn lleoliadau
annibynnol ledled y De yn ystod taith The Once Around The Bloc Tour. Roedd
y daith yn rhoi sylw i’r partneriaethau gwaith llwyddiannus rhwng y trefnwyr,
y WMF, Cynghorau Lleol, Radio 1 a Virtual Cardiff a sut y gallant, o weithio
gyda’i gilydd, ddenu digwyddiadau poblogaidd i gynulleidfaoedd mewn ardaloedd
sy’n colli allan ar y teithiau fel arfer.
Ionawr 2002
Cymryd rhan yn Ffeiriau Wythnos y Glas Prifysgolion a Cholegau’r
De yn ystod 2000 a 2001. Mae’r WMF wedi cyflwyno stondinau gwybodaeth sy’n
hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth iach i fyfyrwyr a’r busnesau cysylltiedig sy’n
bodoli yn y De.
Ionawr 2002
Paratoi copi tudalen ddwbl ar gyfer cylchgrawn ‘One Wales’ y Western
Mail.
Ionawr 2002
Ysgrifennu a chynhyrchu cyfres o ragolygon / adolygiadau cerddoriaeth
dyddiol - ‘Honk Shorts’ ar gyfer BBC Radio 2 Live in Cardiff. Cawsant eu defnyddio
gan Radio 2 i hyrwyddo eu digwyddiadau ymylol.
Ionawr 2002
Penodwyd fel ymgynghorwyr i’r BBC yn 2002, i gynghori ar eu polisi
cerddoriaeth a digwyddiadau yng Nghymru.
2001
Awst 2001
Penodwyd gan Gyngor Caerdydd i lunio’r rhaglen adloniant ar gyfer
y nos Wener yng Ngŵyl Haf ‘Penwythnos Mawr’ 2001.
Gorffennaf 2001
Creu’r Cyfeiriadur Diwydiant Cerddoriaeth cyntaf ar gyfer Cymru
sy’n cynnwys manylion cyswllt dros 1000 o fusnesau sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth
yng Nghymru - o fusnesau diwydiant craidd fel stiwdio recordio a lleoliadau,
i gwmnïau cyfryngau, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau celf.
Gorffennaf 2001
Cynhyrchu, ysgrifennu a chynllunio cylchgrawn safonol misol
i’r diwydiant cerddoriaeth, ‘Sound Nation’ (‘Honk’ cyn hynny) sy’n cael ei
anfon at aelodau cronfa ddata cynulleidfa’r Welsh Music Foundation. Mae Sound
Nation yn rhoi sylw i newyddion lleol y diwydiant cerddoriaeth, proffiliau
bandiau newydd o Gymru a chyngor ymarferol ar amrywiaeth o bynciau sy’n berthnasol
i’r diwydiant cerddoriaeth. Mae dros 5500 wedi tanysgrifio i gylchgrawn Sound
Nation. Mae newyddiadurwyr llawrydd lleol sy’n ysgrifennu i’r cylchgrawn yn
cynnwys ysgrifenwyr o’r NME, GQ, Radio 1 a’r Independent.
Haf 2001
Sefydlu Rhwydwaith Diwydiant Cerddoriaeth ‘BLOC’. Rhwydwaith sy’n
cael ei arwain gan y diwydiant sy’n dod ag ystafelloedd ymarfer, stiwdios recordio
a lleoliadau ynghyd er mwyn annog ffrwd wedi’i threfnu gyda ffocws ar gyfathrebu
a chydweithredu rhwng y busnesau.
Awst 2001
Trefnu i ddau fand o Gymru chwarae yng Ngŵyl L’orient Interceltique,
Ffrainc. Dyma’r tro cyntaf i fandiau pop o Gymru chwarae yn yr ŵyl Geltaidd
uchel ei pharch hon.
Mehefin 2001
Daeth Interactive City Conference, cangen Cyfryngau Newydd o’r
confensiwn diwydiant cerddoriaeth llwyddiannus - In The Music - i Gaerdydd
am y tro cyntaf yn 2001 yn sgil trafodaethau’r WMF. Roedd y digwyddiad wedi’i
gynnal yn Glasgow cyn hynny. Trefnodd y WMF lawer o’r adloniant fin nos ar
gyfer y digwyddiad hwn.
Chwefror 2001
Denu’r cylchgrawn cerddoriaeth poblogaidd - The Fly - i Gymru
am y tro cyntaf. Penododd The Fly WMF i ddarparu’r cynnwys rhanbarthol ar gyfer
y cylchgrawn.
2000
Tachwedd 2000
Rheoli a chydgysylltu’r wasg ar gyfer ffilm John Cale, ‘Camgymeriad
Gwych / Beautiful Mistake’, a gafodd ei ryddhau fel rhan o Ŵyl Ffilm Cymru.
Gwanwyn 2000
Marchnata albwm ‘Know Your Enemy’ y Manic Street Preachers yn
y wasg leol.
Ebrill 2000
Denu'r cwmni o Lundain, Channelfly ccc, i Gaerdydd a’u perswadio
i agor y lleoliad Barfly cyntaf y tu allan i Lundain. Y WMF oedd yn gyfrifol
am greu perthynas rhwng Channelfly ccc a’r bragwyr o Gymru, Brains S.A. ac
am ddod o hyd i leoliad addas iddyn nhw. Nawr, am y tro cyntaf, mae llwyfan
ar gyfer cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd 6 noson yr wythnos ar gyfer bandiau
sy’n teithio a bandiau lleol. Mae’r lleoliad wedi creu 26 o swyddi parhaol.
Mae Barfly Caerdydd wedi torri tir newydd ac agorwyd eraill mewn dinasoedd
eraill yn dilyn ei lwyddiant.
Hydref 2000
Chwarae rôl weithgar i ddenu digwyddiad wythnos ‘One Live’ poblogaidd
Radio 1 i Gaerdydd. Cododd y digwyddiad canol y dddinas refeniw o £583,000.
Penodwyd y WMF yn gydgysylltwyr y digwyddiadau ymylol hynod lwyddiannus – mynychodd
5,000 25 o sioeau ymylol, a oedd yn cynnwys perfformiadau gan 81 band. Dywedodd
lleoliadau lleol bod y sioeau wedi cael effaith enfawr ar elw arferol y bariau
yn ystod y cyfnod hwn. Cydweithiodd 8 hyrwyddwr, 11 lleoliad, 2 gwmni rhyngrwyd
a chylchgrawn mewn ffordd unigryw am y tro cyntaf i hyrwyddo’r digwyddiadau
ymylol. Dywedodd Radio 1 mai dyma’r digwyddiadau ymylol, neu ‘Fringe’, mwyaf
llwyddiannus erioed hyd yma.

