Croeso > Cyfarwyddwyr Y Bwrdd

Cyfarwyddwyr Y Bwrdd

Cyfarwyddwyr Y Bwrdd

Yr aelodau canlynol sydd ar y Bwrdd:

- Cadeirydd
- 4 Rhanddeiliad o Gymru a enwebwyd ac a etholwyd gan y rhanddeiliaid
- Arbenigwr o Busnes Creadigol Cymru fel sylwebydd yn unig
- Penny Mitchell – Cyn-bennaeth Strategaeth, Awdurdod Datblygu Cymru
- Sain

4 cynrychiolydd Rhanddeiliaid Cymru a etholwyd i’r Bwrdd ar 14 Hydref 2009 yw:

Rhys Mwyn

O’r grŵp pync Cymraeg arloesol Anhrefn i’r grŵp dawns diwylliannol Hen Wlad Fy Mamau, bu Rhys Mwyn yn gyfrifol am greu peth o’r gerddoriaeth Gymraeg fwyaf mentrus. Fel mentor i fandiau Cymreig fel Datblygu a Catatonia yn ystod eu dyddiau cynnar, bu hefyd yn gweithio y tu ôl i’r llenni gyda rhai o fandiau pop mwyaf cyffrous Cymru. Ar ôl bod yn gweithio’n hunangyflogedig i Crai, mae Rhys bellach yn rheoli ei gwmni ei hun sy’n cynnwys gwaith rheoli / asiantaeth / ymgynghori / cysylltiadau cyhoeddus ac artistiaid a repertoire. Enillodd Rhys Wobr am ei Gyfraniad Arbennig i Gerddoriaeth Cymru yn 2003 (Gwobrau Cerddoriaeth Cymru) a 2002 (Radio Cymru).

Dai Lloyd

Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio fel Is-Reolwr Busnes Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, lle rwyf yn gyfrifol am strategaeth a datblygu busnes y ganolfan gerddoriaeth.  Cyn hynny, yn ystod 2007 a 2008, roeddwn yn swyddog iaith Gymraeg Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, ac yno roeddwn yn trefnu seminarau a chyngori ar bopeth oedd yn ymwneud â'r diwydiant cerddoriaeth.  Bûm yn gyfrifol am sylfaenu Recordiau Dockrad, sydd, erbyn hyn, wedi rhyddhau oddeutu 20 CD ac wedi ‘cyhoeddi’ llawer o artistiaid o Gymru yn y ddwy iaith, ac o bob genre. Rwyf wedi rhyddhau fy ngherddoriaeth fy hun ac mae gen i brofiad helaeth o ddelio â mudiadau casglu cerddoriaeth megis PRS, MCPS a PPL

John Rostron

Mae John Rostron yn hyrwyddwr cerddoriaeth fyw sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Gyda Huw Stephens, DJ Radio 1, mae'n trefnu'r Ŵyl Sŵn sydd, erbyn hyn, yn ddigwyddiad blynyddol ac sy'n cael ei gynnal mewn dwsin o ganolfannau yng Nghaerdydd yn ystod un penwythnos yn yr Hydref. Mae wedi creu digwyddiadau Sŵn eraill hefyd gan roi cyhoeddusrwydd i gerddoriaeth y tu mewn a thu allan i Gymru, ynghyd â chyngherddau yr ICA, teithiau yng Nghymru, a chyngherddau Sŵn a gynhelir yn fuan yn In The City, UnConvention ac yn 2010 yn Efrog Newydd, Croatia ac SXSW. Yn ddiweddar sefydlodd Association of Promoters and Events Cardiff (APE Cardiff : www.apecardiff.com) corff sy'n cynrychioli'r holl hyrwyddwyr cerddoriaeth 'fyw' a nosweithiau clybiau nos yn y ddinas i roi llais iddynt siarad â'r Cyngor a'r Awdurdodau fel ymateb i'r pwysau cynyddol sydd ar hyrwyddwyr a chanolfannau cerddoriaeth 'fyw' yn y brifddinas.  

Mae John hefyd yn berchen ar y label recordio annibynnol rhyngwladol My Kung Fu, sydd wedi meithrin recordiau gan Richard James (o Gorky’s Zygotic Mynci), Soft Hearted Scientists a'r record Gymraeg gyntaf un gan Cerys Matthews ymhlith eraill. Mae John hefyd yn gydawdur ‘Sleeveface’.

Huw Williams

Huw oedd canwr The Pooh Sticks o 1988 hyd at 1995. Gwnaeth y band nifer o albymau, gan sicrhau cytundebau pwysig gyda BMG ac Atlantic a theithio yn yr UD, Japan ac Ewrop. Erbyn 1994 roedd Huw wedi dechrau rheoli 60Ft Dolls o Gasnewydd gan arwain y band drwy gytundebau â Rough Trade a Geffen, teithiau ledled y byd a chaneuon llwyddiannus yn y DU. Mae Huw wedi gweithio fel ymgynghorydd A&R i Sony and Warners.  Arweiniodd ei ymwneud â Catatonia a'r Stereophonics at ffurfio'r cwmni cyhoeddi Townhill Music, a ariannwyd gan Sony UK. Huw oedd un o gydsefydlwyr Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn 2000 a thra oedd yn rheolwr hyd at 2002 Huw oedd yn gyfrifol am oruchwylio cyfraniad y sefydliad wrth ddod â BBC Radio 1 Live, Interactive City a chanolfan Barfly i Gaerdydd, gan greu cyfeiriadur cerddoriaeth cyntaf i Gymru a chan lansio'r cylchgrawn di-dâl Honk/ Sound Nation.

Mae Huw wedi bod yn ddarlledwr cyson ar BBC Radio Wales am fwy na deuddeng mlynedd a chwaraeodd ran allweddol yn y broses o ddod ag XFM i Dde Cymru.  Yn fwy diweddar, cydsefydlodd Huw Ŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Ryngwladol Soundtrack ac ar hyn o bryd mae'n gweithio fel ymgynghorydd diwydiannau creadigol.  

Sain: Dafydd Roberts

Yn dilyn gyrfa fel cerddor yn y 70au a’r 80au, ac fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu gyda'r BBC yng Nghaerdydd a Llundain, mae Dafydd erbyn hyn yn Brif Weithredwr Recordiau Sain.  Yn ystod ei gyfnod yn Sain mae Dafydd wedi lansio is-labeli ar gyfer artistiaid ifanc newydd, wedi ehangu cytundebau dosbarthu a thrwyddedu Sain yn y DU a thramor, ac wedi sicrhau cytundebau ag  iTunes, Nokia/OD2 ac eMusic i gynnwys holl gatalog Sain.  Mae Dafydd hefyd yn gadeirydd Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru, sydd wedi arwain yr ymgyrch i sicrhau taliadau breindal haeddiannol gan PRS a MCPS i gyfansoddwyr o Gymru er mwyn cynnal diwydiant cerddoriaeth egnïol yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.