Croeso > Polisi'r Iaith Gymraeg

Polisi'r Iaith Gymraeg

Polisi'r Iaith Gymraeg

Prif nod WMF yw cynorthwyo datblygiad isadeiledd y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Ers ei sefydlu golygai hyn fod WMF yn awyddus i ddatblygu perthynas weithio â’r holl fusnesau cerddoriaeth yng Nghymru waeth ym mha iaith yr oeddynt yn gweithredu. Fodd bynnag, ers creu’r swydd Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg, mae WMF nawr mewn sefyllfa i gynnig dull mwy pedant o weithredu mewn perthynas â busnesau cerddoriaeth bach a chanolig Cymraeg eu hiaith. Mae’r polisi isod yn amlinellu sut y mae WMF yn bwriadu ymgorffori’r iaith Gymraeg yn ei fframwaith weithio.

Polisi Iaith Gymraeg: Pwyntiau Gweithredu

Mae gweithgaredd craidd WMF yn cael ei weithredu fesul prosiect. Bydd pob prosiect yn cael ei asesu yn nhermau ei ddarpariaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, ac yn cael ei archwilio yn unol â Pholisi’r Iaith Gymraeg fel y caiff ei nodi yn y ddogfen hon.

  • Mae WMF yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg a bydd yn ymateb yn newis iaith y gohebydd, a hynny o fewn y cyfnod targed o saith niwrnod fel y nodir yn ein Cynllun Busnes.
  • Bydd galwadau yn cael eu hateb yn newis iaith aelodau’r staff, yn unol â’u sgiliau ieithyddol. Fodd bynnag, bydd pob neges ffôn yn cael ei chyflwyno mewn fformat dwyieithog.
  • Bydd gwybodaeth a geir ar wefan y Welsh Music Foundation ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, er na fydd gwybodaeth newydd efallai yn cael ei rhoi yn y ddwy iaith ar yr un pryd.
  • Bydd gwybodaeth yn y cyfeiriadur a chynnwys arall a gyflwynir gan ddefnyddwyr ar gael yn unig yn yr iaith y cyflwynir hi ynddi.
  • Bydd holiaduron adborth sy’n gysylltiedig â digwyddiadau a drefnir gan WMF ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
  • Bydd llythyrau gwahoddiad i gyfarfodydd, cynadleddau a seminarau a drefnir gan WMF yng Nghymru lle bydd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol, yn ddwyieithog, neu yn newis iaith y derbynnydd, os bydd hynny yn wybyddus.
  • Bydd pob hysbyseb, cyhoeddiad a datganiad i’r wasg ac i’r cyfryngau gan WMF yng Nghymru yn cael ei drefnu fel a ganlyn:
    - Yn ddwyieithog mewn cyhoeddiadau Saesneg eu hiaith sy’n cylchredeg yng Nghymru yn bennaf.
    - Yn Saesneg yn unig mewn cyhoeddiadau sy’n cylchredeg ledled y DU yn bennaf.
    - Yn Gymraeg yn unig mewn cyhoeddiadau Cymraeg eu hiaith.
  • Bydd unrhyw ymgyrchoedd ymchwil a gynhelir ledled y wlad gan WMF yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wahân, oni bai bod goblygiadau strategaeth neu gost yn ffafrio fformat unieithog.
  • Bydd deunydd ysgrifennu swyddfa, slipiau cyfarch, anfonebau, ffurflenni archebu, a phapur ysgrifennu swyddogol mewn fformat dwyieithog. Bydd troedynnau e-bost yn cael eu cynhyrchu yn newis iaith yr unigolyn.
  • Bydd cylchlythyrau yn cael eu hanfon yn Saesneg yn unig, ond petai unrhyw un yn gofyn am gyfieithiadau ohonynt byddwn yn amcanu eu darparu o fewn y cyfnod targed o saith niwrnod fel y nodir yn ein Cynllun Busnes.
  • Bydd gwybodaeth sy’n cael ei hanfon ymlaen gan WMF ar ran cyrff eraill yn cael ei hanfon ymlaen yn yr iaith y derbyniwyd hi ynddi.
  • Bydd pob seminar yn cael ei chynnal yn Saesneg, ac eithrio’r rhai a drefnwyd yn benodol er budd busnesau cerddoriaeth bach a chanolig Cymraeg eu hiaith yn unig. Mewn achosion o’r fath bydd y seminarau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd unrhyw ddeunydd neu ddogfennau, yn cynnwys Hysbysiadau, Agendâu a Chofnodion y bydd eu hangen ar gyfer yr achlysur yn cael eu cynhyrchu yn yr iaith y cynhelir y digwyddiad ynddi. Petai unrhyw un yn gofyn am gyfieithiad, byddwn yn anelu i ddarparu un o fewn y cyfnod targed o saith niwrnod fel y nodir yn ein Cynllun Busnes.