Home > Rhyngwladol

Rhyngwladol

Rhyngwladol

Ar un adeg dim ond y cwmnïau recordiau mwyaf a allai fanteisio ar gyfleoedd masnach rhyngwladol. Nawr mae’n rhwyddach nag erioed i gwmnïau bach a chanolig ddatblygu cysylltiadau masnachu rhyngwladol; a chyda mwy na $25 biliwn yn cael ei wario ym marchnad y diwydiant cerddoriaeth byd-eang yn 2005 (ffynhonnell: IFPI) mae’r cyfleoedd yn amlwg i bawb.

Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn cynnal nifer o ffeiriau masnach drwy’r flwyddyn, gan roi cyfle i fandiau, labeli, cyfansoddwyr caneuon a chyhoeddwyr ddarganfod dalwyr trwydded, dosbarthwyr a chysylltiadau ym mhob rhan o’r byd.

Mae WMF wedi bod yn mynychu ffeiriau masnach rhyngwladol yn ystod y 4 blynedd ddiwethaf a dyma’r sefydliad cyntaf i fynd â busnesau Cymreig i ddigwyddiadau o’r fath.

Yn aml nid yw cwmnïau bychain yn ymwybodol sut i fanteisio i’r eithaf ar fasnach ryngwladol – gall WMF helpu.

Gallwn, nid yn unig eich helpu i gyrraedd Midem, PopkommSouth By Southwest a mwy, ond hefyd gallwn roi hyfforddiant i chi ym maes gwerthiant rhyngwladol a sut i fanteisio’n llawn ar y digwyddiadau hyn. Rydym yn gweithio’n glòs gyda Creative Business Wales ac International Business Wales i sicrhau eich bod yn cael y cymorth mwyaf posibl wrth gyrchu marchnadoedd rhyngwladol.

I gael mwy o wybodaeth am Fasnach Ryngwladol, cysylltwch â Lisa ar 02920 494 110 neu e-bost lisa@welshmusicfoundation.com.