Cyllid - Newyddion Pwysig: SXSW 2010
Date Posted: 12th March 2010

Beth yw SXSW?
South by South West (SXSW) yw arddangosfa a chynhadledd fwyaf blaenllaw y diwydiannau cerddoriaeth, technoleg ryngweithiol a ffilmiau annibynnol. Cynhelir SXSW yn Austin, Texas, 12 - 21 Mawrth 2010. Ewch i www.sxsw.com er mwyn cael mwy o fanylion.
Cyllid ar gael:
Bydd Busnes Creadigol Cymru yn cynnig grant i gwmnïau sy’n barod i allforio, tuag at y costau o fynd draw yno. Mae’r pecyn cyllid ar gael ar gyfer 50% o gostau hedfan a llety, hyd at £700 y cwmni. Mae hyn yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd o SXSW, ond rhaid darparu copïau o dderbynebau. Hefyd, mae 50% o dâl cofrestru SXSW yn ad-daladwy hyd at werth o £300. Unwaith eto, bydd angen copi o’r dderbynneb. Mae’r cyllid hwn yn grant ac felly nid yw’n cynnwys TAW. Mae’r cymorth hwn yn gyfyngedig a dim ond cwmnïau cerddoriaeth sy’n barod i allforio a fydd yn gymwys.
Bydd cwmnïau yn gyfrifol am archebu eu tocynnau teithio, eu llety a’u pasys cynrychiolwyr eu hunain.
Cymru yn SXSW:
Bydd Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn gofalu am ‘barti’ Cymru, ac yn arddangos detholiad o artistiaid o Gymru a wahoddwyd i chwarae gan banel SXSW. Yn ogystal â’r rhaglen o ddigwyddiadau i gwmnïau rhyngweithiol a’r amrywiaeth o gyfleoedd i gynrychiolwyr cerddoriaeth, bydd WMF hefyd yn rhan o stand masnach Prydain yn y confensiynau cerddoriaeth a rhyngweithiol.
A oes gennych ddiddordeb?
Dylai pob cwmni sy’n ystyried o ddifrif mynd yno e-bostio lisa@welshmusicfoundation.com cyn gynted ag sydd bosibl.

