Croeso > Newyddion > Sioe Deithiol Arloesi ac E-Fusnes i Gymru 2010

Sioe Deithiol Arloesi ac E-Fusnes i Gymru 2010

Date Posted: 24th March 2010

Croeso i’n siop up stop ar gyfer gwybodaeth ar brif ddigwyddiad busnes eleni – Sioe Deithiol Arloesedd ac e-Fusnes Cymru.

Bydd Sioe Deithiol Arloesedd ac e-Fusnes gyntaf erioed Cymru yn teithio i 5 lleoliad ar draws y wlad yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth eleni ac mae’n gyfle i fusnesau o bob maint i siarad a chael gwybodaeth gan arbenigwyr mewn llawer maes o ddatblygu busnes, yn cynnwys Arloesedd, e-Fusnes, e-Ddiogelwch a thechnolegau’r dyfodol- YN RHAD AC AM DDIM!

Cafodd cynnwys y sioe ffordd ei greu yn dilyn mewnbwn gan dros 200 o fusnesau blaengar a rhagweithiol a bydd yn rhoi sylw i’r meysydd dilynol yma:

Rhwydweithio cymdeithasol - sesiwn na fyddwch eisiau ei cholli - bydd ein siaradwyr cyweirnod o fyd ‘twitter’ a ‘facebook’ yn cynnig eu cynghorion ar sut i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd masnachol i’ch busnes drwy brif ffenomen eleni - cyfryngau cymdeithasol. Dysgwch am syniadau a thechnegau newydd a all helpu eich busnes/cynnyrch arloesol i aros o flaen y gêm.

Arloesedd Busnes - bydd Rheolwyr Arloesedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bresennol i roi cyngor diduedd yn rhad ac am ddim i chi ar arloesedd eich cwmni. O’ch helpu i ddatblygu cynnyrch newydd a rheoli asedau eiddo deallusol, materion dylunio a gweithgynhyrchu, hyd fasnacheiddio llawn eich cynnyrch, gwasanaethau, prosesau a thechnolegau newydd.

e-Fusnes – bydd y cyflwyniadau gwerthfawr rhad ac am ddim gan y tîm e-fusnes yn eich helpu i ymelwa ar dechnoleg fel erioed o’r blaen – symleiddio prosesau, megis systemau rheoli perthynas cleientiaid, adnoddau menter a rheolaeth ariannol, i wella effeithiolrwydd, gallu cystadleuol a phroffidioldeb.

Bydd y tîm e-Fusnes hefyd yn cynnig gwiriad iechyd busnes rhad ac am ddim i bob cleient i ddynodi cyfleoedd ar gyfer gwella defnydd TGCh.

e-Drosedd – beth yw’r prif fygythiadau ar gyfer 2010 a pha gamau ymarferol y gall busnesau eu cymryd i’w diogelu eu hunain? Bydd tîm e-Droseddu Cymru ac arbenigwyr ar ddiogelwch gwybodaeth yn bresennol yn y sioe deithiol i ddweud wrthych sut i wneud hynny.

Technolegau’r dyfodol - mae dros 75% ohonoch wedi gofyn am eglurhad am fanteision defnyddio a mabwysiadu Technolegau Cwmwl o fewn eich busnes. Bydd gennym arbenigwyr yn bresennol i esbonio a’ch helpu i weithredu a rheoli Gwasanaethau Cwmwl pe dymunech wneud hynny.

Cydweithio - Bydd y sesiwn yn edrych sut y gall cydweithio gynyddu rhannu gwybodaeth a galluogi rhwydweithiau a chlystyrau busnes i weithio’n well gyda’i gilydd. Yma yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, ein nod yw cyflwyno perthynas Busnes Rhwydwaith Digidol ar gyfer pob clwstwr sector allweddol. Rydym yn gweithio gyda’r clystyrau sector dilynol ar hyn o bryd - ynni, diwydiannau creadigol, adeiladu, biowyddoniaeth ac awyrofod.

Yn olaf, bydd ein PARTH ARDDANGOS A GWYBODAETH yn sicrhau y bydd Sioe Ffordd Arloesedd ac e-Fusnes eleni yn brofiad ‘rhyngweithiol’ iawn - lle cewch gyfle i roi cynnig ar y technolegau TGCh diweddaraf ar y farchnad megis ffonau Smart, Skype, cyfrifiadureg Cwmwl, a systemau Rheoli Perthynas Cleientiaid a gysylltir â ffôn. Mae gwybodaeth bellach ar hyn ar gael ar dudalen PARTH ARDDANGOS A GWYBODAETH.

Byddwch hefyd yn medru gweld sut y mae busnesau fel eich busnes chi wedi manteisio o gymorth Arloesedd ac e-Fusnes drwy ein hastudiaethau achos am fusnesau go iawn.


Edrychwn ymlaen at eich gweld yn un o’n sioeau teithiol yn y misoedd i ddod.

https://www.welshevents.co.uk/event/innovationebusinessforwales2010

 

Back to News