Croeso > Newyddion > Gweithdai Cael Gafael ar Gyllid Busnes

Gweithdai Cael Gafael ar Gyllid Busnes

Date Posted: 16th March 2010

Cydweithio i gefnogi eich busnes

Nod y Gweithdai Cael Gafael ar Gyllid Busnes yw cyflwyno egwyddorion sylfaenol cael gafael ar gyllid busnes i entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau a'u hysbysu am yr opsiynau cyllido sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru.

Cefndir 

Mewn ymateb i'r dirywiad economaidd, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gweithio gyda'r prif fanciau yng Nghymru ac wedi cynhyrchu 'canllaw 10 cam' i fentrau bach a chanolig o'r enw 'Dod Drwyddi - Cael Gafael ar Gyllid Banc'. Yn sgil llwyddiant cyhoeddi'r canllaw hwn, mae'r Cynulliad yn bwriadu cynnal Gweithdai o'r enw 'Cael Gafael ar Gyllid Busnes'.

Diben y Gweithdai 

Amcanion y gweithdai yw cyfleu nifer o negeseuon allweddol i'r cyfranogwyr i sicrhau eu bod yn deall cysyniadau, egwyddorion ac arferion canolog cyllid busnes a bod ganddynt ddigon o wybodaeth sylfaenol i fynd at sefydliadau cyllid, sef, banciau'n benodol, ond nid yn unig. 

Sut bydd y Gweithdai o fudd i'm busnes?

Gan ddefnyddio'r 'Canllaw 10 Cam', bydd y cyfranogwyr yn cael cymorth a chyngor ar ffyrdd o sicrhau'r cyllid priodol o'r sectorau preifat a chyhoeddus. 

Trefnwyd dau weithdy peilot:

26 Chwefror 2010 - Technium OpTIC, Llanelwy 

16 Mawrth 2010 - Canolfan Arloesi Springboard , Cwmbrân

Cofrestrwch 

Cofrestru ar-lein neu ffoniwch Cymorth Hyblyg i Fusnes ar 03000 6 03000

Yn dilyn y Gweithdai Peilot, byddwn yn rhyddhau dyddiadau ar gyfer 22 o Weithdai eraill i'w cynnal ledled Cymru drwy gydol 2010. Bydd rhagor o fanylion am ddyddiadau, amserau a lleoliad y Gweithdai hyn i'w gweld ar y wefan hon cyn bo hir. 

Back to News