Datblygu Isadeiledd
Mae rhai’n breuddwydio am adeiladu ymerodraeth, rydyn ni’n gweithio gyda brics a morter. Rhan o waith WMF yw datblygu proses syml gam wrth gam tuag at ddatblygu diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.
Am beth rydyn ni’n sôn? Iawn, dyma enghraifft:
Fe weithion ni i ddod â chadwyn The Barfly i’r ddinas. Lleoliad bach oedd hwn ag iddo enw da iawn a roddodd Caerdydd ar fap lleoliadau’r DU. Llwyddodd i ategu, yn hytrach na chystadlu â sîn gerddoriaeth fyw’r ddinas, rhoddodd gyfle i fandiau newydd chwarae gyda grwpiau mwy profiadol a denodd lawer o sylw gwerthfawr gan y wasg i sîn gerddoriaeth fyw’r ddinas.
Bydd i bob ardal o Gymru ei sialensiau ei hun. Mae yna drefi â digonedd o fandiau ond heb lefydd ymarfer neu leoliadau a phrinder hyrwyddwyr – mae’r rhain oll yn frics sydd angen eu gosod yn eu lle er mwyn i’r broses o wneud cerddoriaeth ddigwydd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.

