Masnach Ryngwladol
Unwaith, dim ond y prif gwmnïau recordio oedd yn gallu manteisio ar gyfleoedd masnach rhyngwladol. Nawr mae’n haws nag erioed i gwmnïau bach a chanolig eu maint ddatblygu cysylltiadau masnachu rhyngwladol; a chyda thros $25 biliwn yn cael ei wario yn y diwydiant cerddoriaeth ledled y byd yn 2005 (ffynhonnell: IFPI) mae mwy na digon o gyfle.
Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn cynnal nifer o ffeiriau masnach drwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfle i fandiau, labeli, cyfansoddwyr caneuon a chyhoeddwyr ddod o hyd i ddeiliaid trwyddedau, dosbarthwyr a chysylltiadau newydd o bob cwr o’r byd.
Yn aml, nid yw cwmnïau bach yn ymwybodol o sut i fanteisio i’r eithaf ar y fasnach ryngwladol – gall WMF helpu.
Gallwn eich helpu i fynd i Midem, Popkomm, South By Southwest ac eraill, ond gallwn hefyd roi hyfforddiant i chi ar werthu’n rhyngwladol a manteisio i’r eithaf ar y digwyddiadau hyn. Rydyn ni’n gweithio’n glòs â Busnes Creadigol Cymru a Masnach Cymru Rhyngwladol i wneud yn siwr eich bod yn cael cymaint o gymorth â phosib i fanteisio ar farchnadoedd rhyngwladol.
Am fwy o wybodaeth ar Fasnach Ryngwladol, ffoniwch Lisa ar 029 2049 4110 neu e-bostiwch lisa@welshmusicfoundation.com.

