Marchnata
Cael eich adnabod, ennill enw da a chynyddu nifer y bobl sy’n ymweld â’ch busnes – dyma dair elfen allweddol, p’un ai ydych chi’n llogi offer cerddorol neu’n gwerthu eich cerddoriaeth eich hun i gwmnïau cynhyrchu teledu. Gall WMF helpu busnesau cerddoriaeth yng Nghymru mewn sawl ffordd.
Y Cyfeirlyfr – mae’r ffynhonnell gynhwysfawr hon o wybodaeth am fusnesau cerddoriaeth sy’n gweithio yng Nghymru yn gyfle i roi gwybodaeth am eich cwmni yn nwylo pob unigolyn a sefydliad sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yn y DU, yn ogystal â nifer cynyddol o gwmnïau rhyngwladol. Mae’r Cyfeirlyfr yn rhoi cefnogaeth olygyddol a chyfle i dargedu hysbysebu.
Cysylltiadau cyfeirlyfr a rhanddeiliaid – mae gan WMF gronfa ddata enfawr o gysylltiadau perthnasol er mwyn eich helpu i godi eich proffil gydag unigolion a sefydliadau a all wneud gwahaniaeth mawr i’ch busnes. Mae cysylltiadau yn y cyfeirlyfr wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor ac yn cynnwys y wasg a chwmnïau hyrwyddo, mân-werthwyr a dosbarthwyr.
Ffeiriau masnach rhyngwladol – Yr allwedd i dwf eich busnes yw dysgu’n gyson am gyfleoedd newydd a manteisio arnyn nhw. Mae busnesau Cymreig sydd wedi ehangu eu gorwelion dramor wedi elwa’n fawr o ymwneud â marchnadoedd rhyngwladol eraill. Gall WMF helpu cwmnïau cerddoriaeth Cymru i dderbyn cymorth ariannol ar gyfer ymweld â ffeiriau masnach rhyngwladol er mwyn eu helpu i wneud marc dramor.
Cyfeillion y Foundation – mae’n deulu mawr o artistiaid, perchnogion labeli, hyrwyddwyr, darlledwyr ac yn bennaf, cefnogwyr cerddoriaeth, oll yn awyddus i gyfnewid gwybodaeth, dysgu gan ei gilydd, rhannu a defnyddio gwybodaeth. Mae gan Ffrindiau... gronfa ddata sy’n tyfu o dros 1,000 o enwau a chylchlythyr rheolaidd, a gall y math yma o hysbysebu ar lafar chwarae rhan ganolog wrth ledaenu newyddion a chyrraedd cefnogwyr.
Am fwy o wybodaeth ar sut y gallwn helpu gyda Marchnata, cysylltwch â ni.

