Podlediadau
Mae’r Welsh Music Foundation wrthi’n cynhyrchu podlediad* ar ffurf rhaglen radio ar gyfer ein gwefan ac rydyn ni’n chwilio am labeli recordio o Gymru i gymryd rhan ynddo.
Er mai dim ond ers tua dwy flynedd y maen nhw’n bodoli, mae podlediadau’n mynd o nerth i nerth yn y diwydiant cerddoriaeth. Dim ond ym mis Awst 2004 y cawson nhw’u dyfeisio ond yn y cyfnod byr ers hynny mae rhai o gwmnïau mwya’r byd ym maes y cyfryngau, gan gynnwys y BBC a Disney, wedi cynhyrchu podlediadau, mae Apple wedi creu gwasanaethau ategol ar gyfer iTunes/iPod ac mae’r rhaglenni mwyaf poblogaidd wedi denu degau o filoedd o wrandawyr.
Bydd podlediad y WMF yn cynnwys chwe rhaglen wythnosol. Bydd pob rhaglen yn canolbwyntio ar un label yng Nghymru ac yn cael ei chreu ar y cyd gan y WMF a’r label. Bydd y WMF yn gyfrifol am yr ochr dechnoleg, cysylltiadau ar y we, gofod cynnal, llwytho i fyny ac ati a byddwn ni hefyd yn gofalu am yr ochr gyfreithiol – rydyn ni eisoes mewn cysylltiad â’r awdurdodau trwyddedu perthnasol.
Bydd pob label yn cynhyrchu rhaglen tua 30 munud o hyd. Mae gan lawer o labeli eu stiwdio’u hunain neu fe allan nhw drefnu defnyddio un yn hawdd, ond mewn gwirionedd gallai unrhyw un greu rhaglen mewn ychydig oriau gyda chyfrifiadur cyffredin a microffon.
Am fwy o wybodaeth am bodlediadau neu os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect hwn, ffoniwch Mei ar 029 2049 4110 neu e-bostiwch mei@welshmusicfoundation.com.
*Ond beth yw Podlediadau?
Rhaglenni sain y gallwch chi eu lawrlwytho yw podlediadau – gallwch wrando arnyn nhw ar eich cyfrifiadur, eich dyfais MP3 symudol neu hyd yn oed eu rhoi ar CDs cyffredin. Y syniad yw eich bod chi’n tanysgrifio iddyn nhw felly pan fo rhaglen newydd yn cael ei phodledu, mae’n cael ei lawrlwytho i’ch peiriant yn awtomatig. Cyfuniad o ryw fath o raglen radio a thanysgrifiad i gylchgrawn ydyn nhw.
Am fwy o wybodaeth:
Mae Wikipedia yn cynnwys llawer o wybodaeth gefndir a chysylltiadau:
http://en.wikipedia.org/wiki/Podcasting
Mae’r gan y BBC ganllaw hwylus i’r dechnoleg a rhai rhaglenni i’w lawrlwytho:
www.bbc.co.uk/radio/downloadtrial/
Dyma gyfeiriadur o lawer o raglenni:

