Cynrychioli Diwydiant Cerddoriaeth Cymru
Yn yr economi fodern, mae’n hanfodol cynrychioli diwydiant cerddoriaeth Cymru mewn trafodaethau seneddol. P’un ai ydych chi’n rhedeg ffatri recordiau neu siop gerddoriaeth ar-lein, gwneir penderfyniadau a all effeithio ar eich busnes. Un o swyddogaethau allweddol WMF yw cynnig cyngor i wneuthurwyr polisi os yw eu penderfyniadau’n effeithio ar y diwydiant yng Nghymru. Mae’n sicrhau bod eich llais chi’n cael ei glywed. Ymhlith sefydliadau y gweithiwn gyda nhw mae:
- Llywodraeth y DU – Aelodau o’r Fforwm Cerddoriaeth Fyw
- Diwydiant Ffonograffig Prydain (BPI) – aelodau o’r Pwyllgor Rhyngwladol
- Cymdeithas Cerddoriaeth Annibynnol (AIM)
- Awdurdodau Lleol yng Nghymru
- Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Nid yw’n rhestr lawn. Mae gan WMF gysylltiadau cryf â phob un o’r prif sefydliadau masnach, cymdeithasau casglu breindaliadau a phawb arall ddylai glywed beth mae Cymru ei angen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.

