Home > Gwasanaethau > Seminarau a Digwyddiadau

Seminarau a Digwyddiadau

Seminarau a Digwyddiadau

Mae yna gannoedd o gwmnïau yng Nghymru sy’n gweithio yn y busnes cerddoriaeth. Mae’n gwneud synnwyr i ni fod Welsh Music Foundation yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddod â’r cwmnïau hyn at ei gilydd mewn seminarau a digwyddiadau rheolaidd, gan annog busnesau i rwydweithio a rhannu gwybodaeth sy’n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru.

Caiff ein seminarau eu harwain gan arbenigwyr yn y diwydiant ar bynciau amrywiol yn ymwneud â’r diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys rôl cymdeithasau casglu, cyhoeddi a chydamseru, cyfraith / contractau cerddoriaeth a gweithio’n rhyngwladol. Mae digwyddiadau rhwydweithio’n cynnwys digwyddiad gwib-rwydweithio y BBC sy’n dod â chynrychiolwyr o bob rhan o’r BBC a busnesau cerddoriaeth Cymreig at ei gilydd gyda’r nod o geisio cael mwy o gerddoriaeth o Gymru ar yr awyr.

Un o amcanion allweddol y Welsh Music Foundation yw “creu system gymorth i helpu i ddatblygu Diwydiant Cerddoriaeth yng Nghymru sy’n hyfyw’n fasnachol”, neu mewn geiriau eraill, helpu busnesau amrywiol i ddod yn ddiwydiant. Mae tystiolaeth lafar yn awgrymu bod y digwyddiadau hyn yn galluogi mentrau unigol i gryfhau ac elwa ar weithio gyda’i gilydd, neu i’w gilydd mewn rhai achosion.

Am fwy o wybodaeth am seminarau a digwyddiadau’r gorffennol, ewch i adran archif Gwasanaethau a Digwyddiadau.