SXSW
Mae South by Southwest (SXSW) yn un o’r gwyliau mwyaf yn yr Unol Daleithiau a’r byd. Bob gwanwyn mae dros mil o artistiaid yn glanio yn Austin, Texas er mwyn gwneud cerddoriaeth a gwneud busnes.
Yn 2007 roedd Welsh Music Foundation a Busnes Creadigol Cymru yno - gwelwch y daflen isod - ac yn cefnogi'r artistiaid a busnes cerddorol Cymraeg. Am fwy o wybodaeth am yr ŵyl a’r bandiau, gallwch ddarllen erthygl ar-lein chafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol yn y Western Mail o’r enw: "Why so many Welsh bands head for Texas with hope in their art”.
Mae yna bapur briff ar ddosbarthu a thrwyddedu’n rhyngwladol chafodd ei baratoi gan arbenigwraig gyfreithiol cerddoriaeth Ann Harrison ar gael yma (ffurf PDF, clicio ar y dde a safio) - gwerth ddarllen os ydych yn meddwl mynychu’r ŵyl yn y dyfodol.

Mae gan daith y Welsh Music Foundation i Decsas Myspace, gyda cherddoriaeth a hanes y bandiau a.y.y.b:
myspace.com/newmusicfromwales
Dyma rhai lluniau o’r digwyddiad - cliciwch i’w hagor yn fwy mewn ffenest arall.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: mei@welshmusicfoundation.com.



